Côd Cefn Gwlad

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Diogelwch

Dylai cerdded yr arfordir fod yn brofiad diogel a dymunol. Mae’n werth ystyried y pwyntiau isod, yn enwedig os nad ydych wedi arfer cerdded, os yw’r tywydd yn debygol o fod yn wael neu’n gyfnewidiol neu os ydych yn bwriadu rhoi cynnig ar rai o’r llwybrau hir neu anghysbell.

  • Cadwch ar y llwybr ac yn ddigon pell o ymyl clogwyni.
  • Gwisgwch esgidiau cerdded a dillad cynnes sy’n dal dŵr.
  • Byddwch yn arbennig o ofalus os bydd yn wlyb a/neu’n wyntog.
  • Cadwch olwg ar blant a chŵn drwy’r adeg.
  • Gadewch gatiau ac eiddo fel yr oeddent cynt.
  • Cofiwch y gall signal ffonau symudol fod yn anwadal mewn rhai rhannau o’r arfordir. Rhowch wybod i rywun i ble
  • rydych yn mynd a phryd y dylech gyrraedd.
  • Byddwch yn ofalus o blanhigion ac anifeiliaid ac ewch â’ch sbwriel adref gyda chi.

Cŵn

Gall Llwybr Arfordir Cymru fod yn lle gwych i grwydro gyda’ch ci ond cofiwch fod rhannau o’r llwybr ar ben clogwyni ac y bydd bywyd gwyllt a da byw ar hyd y llwybr hefyd. Cyfrifoldeb perchennog y ci yw sicrhau  nad yw’r ci’n achosi perygl na phoendod i anifeiliaid fferm, i fywyd gwyllt nac i bobl eraill.

Er bod croeso cynnes i gŵn ar y rhan fwyaf o Lwybr Arfordir Cymru, cofiwch y bydd cŵn yn cael eu gwahardd mewn rhai mannau (gan gynnwys rhai traethau yn ystod yr haf). Mae’n rhaid talu sylw i’r arwyddion gwaharddiadau ar gŵn; bydd dirwy i’w thalu os na fyddwch yn parchu'r gwaharddiadau hyn.

Dilynwch y Côd Cefn Gwlad

  • Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i chi reoli'ch ci, a'i rwystro rhag dychryn neu darfu ar anifeiliaid fferm a bywyd gwyllt. Yn y cyfnod rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf, rhaid i chi gadw'ch ci ar dennyn byr pan fyddwch chi ar dir agored a thir comin. Rhaid gwneud hynny hefyd gydol y flwyddyn pan fyddwch chi'n agos at anifeiliaid fferm.
  • Cyn belled â'ch bod chi'n cadw'ch ci dan reolaeth dynn, does dim rhaid i chi ei roi ar dennyn ar lwybrau cyhoeddus. Ond, fel rheol gyffredinol, mae'n well ei gadw ar dennyn os dydych chi ddim yn gallu dibynnu arno i fod yn ufudd. Yn ôl y gyfraith, mae gan ffermwyr yr hawl i ddifa cŵn sy'n anafu neu'n poeni'u hanifeiliaid.
  • Os yw anifail fferm yn rhedeg ar eich ôl, mae'n fwy diogel i chi adael eich ci oddi ar ei dennyn. Peidiwch â pheryglu'ch hun trwy geisio amddiffyn y ci.
  • Byddwch yn arbennig o ofalus i rwystro'ch ci rhag dychryn defaid ac wyn. Peidiwch â gadael iddo grwydro i fannau lle y gallai darfu ar adar sy'n nythu ar y ddaear neu fywyd gwyllt arall. Heb gael eu hamddiffyn gan eu rhieni, mae wyau ac anifeiliaid ifanc yn marw'n fuan.
  • Mae pawb yn gwybod mor annymunol yw baw ci. Mae hefyd yn gallu lledaenu heintiau. Felly, gofalwch eich bod chi'n glanhau ar ôl eich ci bob tro, a'ch bod chi'n cael gwared â'r baw mewn ffordd gyfrifol. Gofalwch hefyd fod eich ci'n cael triniaeth reolaidd ar gyfer llyngyr.
  • Ar rai adegau, fydd cŵn ddim yn cael mynd i rai rhannau o dir agored, neu efallai y bydd yn rhaid cadw'r ci ar dennyn. Dilynwch unrhyw arwyddion.

Cofiwch fod cŵn yn anifeiliaid chwilfrydig sy’n aml yn mwynhau rhedeg a darganfod llefydd newydd. Rydyn ni’n argymell felly eich bod yn cadw cŵn dan reolaeth wrth gerdded ar hyd clogwyni.