Zoe Wathen

Zoe Wathen - Y fenyw gyntaf i gerdded Llwybr Arfordir Cymru

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

21 Gorffennaf 2012 oedd dechrau WathWalk rhif 2. Yn 2011, cerddais Lwybr Arfordir De Cymru mewn 47 diwrnod – hwn oedd fy llwybr pellter hir cyntaf – a chredais mai hwn fyddai’r unig un. Fodd bynnag, roedd y profiad yn rhywbeth roeddwn eisiau ei ddal, ei boteli a mynd ag ef adre gyda fi. Felly pan gyhoeddodd fy ffrindiau a’m cyd-gerddwyr, Steve Webb a Mike Langley, y byddent yn cerdded Llwybr newydd Arfordir Cymru yn ystod gwyliau haf 2012, roedd y dynfa’n ormod! Bwriad Mike a Steve oedd cerdded Clawdd Offa gynta ac yna cyfarfod â fi yng Nghas-gwent i barhau â’r daith.

Uchafbwyntiau

Roedd digwydd taro ar hen gymydog yn Worm’s Head yn achos neidio i fyny ac i lawr! Y darn mwyaf prydferth yn sicr oedd Llwybr Arfordir Sir Benfro gyda Bro Gŵyr yn ail agos. Roedd yr ardal o amgylch Strumble Head yn anhygoel a byddwn wedi hoffi gallu cymryd fy amser i fwynha’r olygfa drawiadol hon. Roeddwn wrth fy modd yn cael cwrdd â pheilot o’r Ambiwlans Awyr a chael cynnig y cyfle i siarad â’i griw. Rwy’n edmygu eu hymroddiad ac yn falch mod i wedi gallu gweld yr hofrennydd o dan yr amgylchiadau hyn ac nid fel achos brys! ISAFBWYNTIAU: Roedd mieri, danadl poethion a phothelli yn isafbwyntiau go iawn i mi o fewn y ddau ddiwrnod cyntaf ac roedd fy nheulu 150 o filltiroedd i ffwrdd! Yn waeth na dim, sylweddolais mod i wedi gadael fy mholion cerdded deuddeng mlwydd oed adref, felly cawsant eu postio’n syth i mi eu casglu. Daeth y ‘torri i lawr’ mewn swyddfa didoli’r post ble y clywais fod fy mholion ‘mynd-gyda-fi-ar-bob-antur’ hoff wedi cael eu hanfon i ddepo dan sêl ym Melffast i’w gwaredu! Ond y diwrnod

Caletaf

Oedd brwydro ar hyd y traeth mewn blaenwynt oedd yn hyrddio 60 milltir yr awr yn RAF Fali tuag at Rosneigr. Prin y gallwn sefyll ac roedd yn rhaid i mi orchuddio fy wyneb gan fod y gwynt, y tywod a’r curlaw yn llosgi fy wyneb. Er gwaethaf hynny, cerddodd Mike a fi 22 milltir y diwrnod hwnnw.

Pwyntiau Difyr

Rwyf bellach yn teimlo balchder mawr; nid yn unig am gwblhau 870 milltir mewn 43 diwrnod ond am i mi o’r diwedd ddysgu sut i gorlannu heffrod a gwartheg cynhyrfus ac achub cwpl mewn panig o Wrecsam oedd yn credu eu bod yn cael eu corlannu eu hunain! Roedd rhai o’r golygfeydd a welsom yn annisgwyl, yn cynnwys sesiwn tynnu lluniau noeth ben bore ar gyfer calendr elusen! Rhaid i fi gyfaddef mod i wedi oedi yn hirach nag oedd angen...

Dylai Arry Beresford-Webb a Dave Quarrell ymfalchïo yn eu llwyddiannau. Un peth gwych a sylweddolais a wnaeth i fi sgipio ar hyd rhyw ddarn o’r llwybr newydd hwn yw mai fi (hyd y gwn i) yw’r ferch gyntaf i gerdded Llwybr Arfordir Cymru ar ei hyd!

Ar wahân i’r pleser pur o gerdded a’r angen i wynebu her, y prif reswm dros fy antur enbyd oedd parhau i godi arian i dair elusen; offer Technoleg i’r ysgol lle rwyf yn dysgu, Hosbis Plant Julia’s House Dorset, a Woofability, sef Cŵn i Helpu’r Anabl. Erbyn mis Rhagfyr 2012, codwyd dros £5,600 ac mae’n clwb WathWalk o fyfyrwyr penderfynol yno i’m helpu i gyrraedd fy nharged parhaus o £10,000.

Gwnaeth y cyfeillgarwch a wnaed a charedigrwydd a haelioni’r bobl a’r cymunedau Cymreig traddodiadol ar hyd y daith argraff ddofn arna’i. Dychwelais adref gyda dos 5,000 o luniau a dechrau meddwl sut cefais amser i gerdded o gwbl, gyda chynifer o luniau ar fy nghamera! Mae Cymru’n brydferth, beth bynnag fo’r tywydd (gan nad 2012 oedd y flwyddyn orau i gael haul yr haf), ond gwnaethom y gorau ohoni a byddwn yn argymell y profiad i unrhyw sy’n cynllunio taith debyg!

Gallwch ddilyn ar tudalen Facebook http://www.facebook.com/headrightout, Instagram a Twitter @HeadRightOut neu fynd i gwefan www.headrightout.com i wylio am heriau newydd!