Nigel Pearce and Mike Cartwright

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Enw: Nigel Pearce efo Mike Cartwright (efo cap) a Paddy’r ci

Eich ysbrydoliaeth

Roeddem eisiau gwneud rhywbeth nad oedd llawer o bobl eraill wedi’i wneud ac roeddem wedi’n hysbrydoli gan hoffter o’r awyr agored a’r rhyddid y mae cerdded am oriau yn ei roi i ni. 

Dyddiad cychwyn

Ym Mehefin 2104 buom yn cerdded Llwybr Ceredigion ac ar ôl cwblhau llwybr arfordir Penfro fe benderfynom gerdded y llwybr cyfan. Felly cerddom y rhannau na wnaethom o’r blaen ac yna anelu am y gogledd.

Dyddiad gorffen

Cwblhawyd y llwybr ar 22 Mawrth 2017 ac roedd yn adeg ryfedd gan ein bod yn drist fod y daith wedi dod i ben gan ei bod wedi dod yn rhan annatod o’n bywydau.

Uchafbwyntiau

Mae arfordir Penfro yn ddarn prydferth o’r arfordir, os am wneud un darn yn unig yna mae hwn yn werth chweil.
Roedd yna un adeg yng ngogledd Cymru pan ddaethom oddi ar fynydd i gyfrwy mynydd ac yna yn ymestyn o’n blaenau roedd penrhyn Llŷn yn crymu a mynyddoedd garw Eryri ag eira ar eu copaon – golygfa syfrdanol.

Rhywbeth i ddweud wrth yr wyrion!

Yn gyffredinol roedd yr holl brofiad wedi dysgu llawer i ni am hanes Cymru, y golygfeydd a bywyd gwyllt. Mae’n rhywbeth y gallaf gofio amdano a phwyntio at fap a dweud wrth fy wyrion fy mod wedi cerdded yr holl ffordd o’i amgylch.

Roedd y ddau ohonom yn hoffi Abersoch a’r aber yn Nhalacharn a bae Samson – bae bychan ond hyfryd ym Mhorthmadog.

Mae Ynys Môn yn hardd gydag awyrgylch heddychlon. Arhosom mewn bwthyn hyfryd ym Mae Cemaes a bwyta’r bastai cig eidion fwyaf mewn tafarn leol.

Isafbwyntiau

Cawsom ddiwrnod gwlyb iawn yng ngwlyptiroedd Casnewydd – roedd yn wlyb a mwdlyd iawn am yr 20 milltir a gerddom ac roedd fy nhrowsus yn rhwbio’n arw yn erbyn fy nghoesau. Bron i mi lewygu wrth gael bath.
Gan ein bod yn gweithio ar shifftiau gwahanol roedd darnau olaf gogledd Cymru yn anodd i’w trefnu gan fod angen i ni ddefnyddio gwyliau blynyddol a dyddiau dyletswydd eraill i orffen y llwybr.

Moment gofiadwy: Yn sychedig iawn am baned o de wrth gerdded twyni yn Ynys Môn a gweld caffi yn union o’n blaenau – y pethau bychain mewn bywyd sy’n bwysig. Deall mai Paddy oedd y ci cyntaf i gwblhau’r llwybr.

Mae yna wastad esgus i beidio â gwneud rhywbeth, dwi’n dweud gwnewch ef:

“Y MWYAF O ANAWSTERAU Y MAE’N RHAID I RYWUN ORCHFYGU, ODDI MEWN AC ODDI ALLAN, Y MWYAF ARWYDDOCAOL A LLAWN YSBRYDOLIAETH FYDD EI FYWYD.”

 

Adeg ysgrifennu hwn rydym wedi cychwyn rhan gyntaf llwybr Clawdd Offa.

 

Lluniau gan Nigel Pearce  

Sir Flint - Nigel Pearce, Mike Cartwright (efo'r gap) a Paddy'r ci

Cei Newydd, Ceredigion

Aberystwyth, Ceredigion