Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Enw: Denise O’Connor gyda John Michael Davies

Eich ysbrydoliaeth: Cerdded Llwybr Arfordir Cymru i gyd

Dyddiad cychwyn: 4ydd Gorffennaf 2013

Dyddiad gorffen: 15 Medi 2015

Uchafbwyntiau: Ymdeimlad gwych o lwyddiant ar ôl gorffen!

Iselbwyntiau: Brifo gwäellen fy  ffêr ar y rhan olaf, sy’n dal i effeithio arnaf 12 mis yn ddiweddarach, a dioddef lludded gwres rhwng Porth Colmon ac Aberdaron (Denise O’Conner)

Fy fflach o ysbrydoliaeth: Ein cinio gyda’r dolffiniaid ar Ynys Môn a’r awydd i gychwyn cerdded Llwybr Clawdd Offa ar ôl i wäellen fy ffêr wella.

Taith gerdded chwe milltir yn gorffen gyda chrwydr 870 milltir ar hyd Llwybr Arfordir Cymru…

Yn gyntaf mi wnaethon ni gerdded o Draeth Poppit i Drewyddel, gan fwynhau golygfeydd dramatig y clogwyni yn ogystal â chryn dipyn o forloi’n dowcio yn y môr islaw. Golygfa nad oedden ni wedi disgwyl ei gweld – roedd hi’n hardd. Mi wnaethon ni fwynhau’r daith hon yn ofnadwy, gan fynd yn ein blaenau ar hyd rhan Sir Benfro am 180 milltir i Amroth.

 

 Un llwybr ymdroellog yn arwain at y llall…

Rai wythnosau’n ddiweddarach mi wnaethon ni benderfynu cerdded rhan Ceredigion gyda’i golygfeydd godidog, a’r bonws ychwanegol o weld dolffiniaid a llamidyddion yn dod i’r fei o dro i dro. Erbyn hyn roedd Llwybr Arfordir Cymru’n dipyn o obsesiwn a doedden ni ddim yn gallu disgwyl symud yn ein blaenau i ardal Pen Llŷn!

Mi aethon ni cyn belled â Llandecwyn, a phenderfynu rhoi’r gorau i’n siwrnai yn y fan honno oherwydd mân waith ar ryw bont. Felly, i ffwrdd â ni i’r de, i Gas-gwent.

“Cerddwn ymlaen, cerddwn trwy ddŵr a thân…”

Mi aethon ni yn ein blaenau ar hyd arfordir De Cymru. Ymlaen ar hyd Arfordir Treftadaeth Bro Morgannwg i Borthcawl (ein tref enedigol) ac ymlaen i Benrhyn Gŵyr a Sir Gaerfyrddin nes cyrraedd Amroth, Sir Benfro, yn ôl!

Mi wnaethon ni fwynhau’r rhan hon, ac eithrio’r tarw limwsîn rhwng Cil-y-coed ac Allteuryn a oedd yn cerdded yn dalog ar hyd y llwybr – roedd o’n fygythiol iawn yr olwg!

Roedden ni wedi gwirioni cymaint ar Lwybr Arfordir Cymru nes iddo droi’n rhyw fath o fagnet inni. Felly, cerdded o Gaer i Gaernarfon oedd nesaf. Roedd y llwybr beicio di-dor ar hyd Afon Dyfrdwy yn anniddorol a braidd yn ddiflas, er yn wastad. Mi wnaethon ni fwynhau Llandudno ac ardal Y Fenai, a daeth y rhan hon i ben wrth Gastell Caernarfon.

Ein cinio gyda dolffiniaid

Gyda dim ond 230 milltir o’n siwrnai ar ôl, Ynys Môn oedd nesaf. Wnawn ni byth anghofio eistedd ger Amlwch yn bwyta ein cinio a gweld tuag wyth dolffin yn neidio ac yn chwarae yn union oddi tanom…’rargian! Lwcus ta be? Mi fydd yr olygfa hon yn aros yn ein cof am byth. Roedd hi’n drueni gorfod gadael Ynys Môn – am le bendigedig!

Y rhai a fyddant olaf a fyddant flaenaf

Pen Llŷn oedd diwedd ein hantur. Roedd Porth Neigwl yn hunllefus, gyda diffyg arwyddion ar y llwybr swyddogol ar gyfer osgoi’r traeth a chael ein dychryn gan wartheg gwyllt, sef rhywbeth a’n gorfododd i gerdded llwybr hirach ar hyd y ffordd. Mi wnaethon ni ddychwelyd rai dyddiau’n ddiweddarach pan oedd y llanw ar drai, gan gerdded ar hyd y traeth. Roedd y gwartheg yn ddychrynllyd!

Ond mi wnaethon ni wirioni ar ein hantur, gan gadw’r rhan orau tan y diwedd, rhwng Trefor a Morfa Nefyn, a gorffen yn nhafarndy’r Tŷ Coch a chael ambell beint o gwrw i ddathlu!

Ar y cyfan, mae Llwybr Arfordir Cymru’n fendigedig. Wedi gwirioni arno – go dda chi!