Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Yr Her

Fe wnes i gerdded Llwybr Arfordir Cymru i gyd ym mis Mehefin a Gorffennaf 2015 fel rhan o ddathliad hanner can mlynedd Ymgyrch Morlin Neifion (Neptune Coastline Campaign) yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae'r ymgyrch wedi caniatáu i'r Ymddiriedolaeth ddiogelu dros 100 milltir o forlin Cymru.

Taith Tryfer

Roeddwn yn cludo tryfer wedi'i gerfio yn arbennig, wedi'i ysbrydoli gan Neifion, duw Rhufeinig y moroedd, felly fe roddwyd enw ar y daith gerdded sef Taith Tryfer.

Hysbysebwyd y daith ar wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac roedd fy amserlen ddyddiol wedi'i chynllunio ymlaen llaw er mwyn caniatáu i bobl ymuno â mi ar y daith ar eu rhan leol neu eu hoff ran o'r llwybr.

Ar gyfartaledd mae'n costio £3000 i'r Ymddiriedolaeth warchod milltir o'r morlin bob blwyddyn, felly roeddwn hefyd yn cerdded i godi arian tuag at helpu i gynnal yr arfordir.

Dyddiad dechrau: 8 Mehefin 2015 (Fflint)

Dyddiad gorffen:  5ed o Awst 2015 (Cas Gwent)

Y Rhannau Gorau

Yr hyn a oedd o gymorth mawr i mi oedd Ceidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym mhob ardal yn symud fy offer gwersylla o un safle i'r llall bob dydd. Roedd hyn yn golygu er fy mod yn cerdded 20 milltir ar gyfartaledd bob dydd dim ond fy mag am y dydd oedd yn rhaid i mi ei gario.

Ynys Môn 

Mae arfordir Cymru yn lle rhyfeddol ac mae'n anodd dewis y rhannau gorau o blith y 870 milltir.  Serch hynny, os yw unrhyw un eisiau dewis rhan o'r arfordir i'w cherdded, byddwn yn argymell gwneud Ynys Môn, gan mai dyna'r unig le y gallwch ddechrau a gorffen yn yr un lle a theimlo'ch bod wedi cwblhau rhywbeth. Hefyd dyna ble mae'r morlin mwyaf amrywiol, mae yno draethau gwych, clogwyni, coedwigoedd a daeareg ryfeddol, a'r cyfan oll gydag Eryri yn y cefndir.

Sir Benfro

Wedi dweud hynny, os ydych chi eisiau taith anghysbell a heriol, ewch i Sir Benfro, gan ei bod yn mynd ymlaen ac ymlaen gyda chlogwyni sy'n fwy a mwy trawiadol. O'm rhan i, y darn byr gorau o'r arfordir oedd o Bont Werdd Cymru i Benrhyn Sant Gofan, ond roeddwn yn ffodus i hyd yn oed gael gweld y darn hwn gan ei bod yn aml ar gau gan ei bod yn rhan o Faes Tanio Castellmartin. 

Serch hynny, er mor drawiadol yw'r morlin, fy atgof pennaf fydd y bobl y gwnes gyfarfod â hwy ar hyd y daith ac roedd cludo tryfer yn sicr o esgor ar sgwrs.

Parsel bwyd a chwrw!

Roedd pawb yr oeddwn yn cwrdd â hwy yn hynod gymwynasgar, o'r Ceidwaid yn symud fy magiau (ac yn atodi ambell i barsel bwyd a chwrw) i ddieithriaid llwyr yn fy helpu i ganfod gwersylloedd neu'n cynnig diodydd a bwyd i mi yn y gwersylloedd pan fyddwn yn cyrraedd, yn enwedig pan oedd y tywydd yn wlyb.

Ac wrth gwrs yr holl bobl a ymunodd â mi ar y daith, y gwnaeth eu gwybodaeth a'u straeon lleol wneud y daith yn ddiddorol ac addysgiadol. Un o'r pethau a ddaeth yn amlwg oedd pa mor brysur oedd y morlin yn ei anterth gyda chymaint o borthladdoedd gweithiol.

Yr isel bwyntiau

Yn ffodus iawn ychydig o isel bwyntiau a fu, er nid oedd gadael Aberystwyth ar ôl ychydig ddyddiau mewn Gwely a Brecwast pan oedd hi'n tywallt y glaw, fy esgidiau cerdded yn gollwng, a finnau wedi torri llenwad yn fy nant, a sylweddoli bod gennyf 500 milltir ar ôl i'w gerdded, yn ddechrau arbennig o dda i'r diwrnod penodol hwnnw.

Er i'r tywydd fod yn wych ym mis Mehefin, roedd y tywydd ym mis Gorffennaf yn aml yn wlyb ac nid yw pacio'ch pabell ac yna'i ailgodi yn y glaw ar ddiwedd y dydd yn rhyw lawer o hwyl. Serch hynny, unwaith y byddai'r haul yn ymddangos ac yn sychu'r babell, byddwn yn aml yn anghofio am y dyddiau gwlyb.

Un o fân rwystredigaethau'r llwybr oedd y cymalau moryd mewndir hir pan fyddech chi'n treulio diwrnod neu fwy yn mynd i mewn ac allan a chyrraedd yn ôl i'r arfordir ryw filltir yn unig ymlaen.

Crynodeb

Roedd Taith Tryfer yn brofiad cwbl ryfeddol ac roeddwn yn ddiolchgar iawn i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am roi cyfle unwaith mewn oes i mi i gwblhau'r llwybr mewn un ymgais. Mae cymaint o leoedd y mae angen i mi ganfod amser i ailymweld â hwy a threulio mwy o amser yn eu harchwilio. Mae rhagor o wybodaeth am y daith ac ymgyrch morlin yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i'w gweld yn blog Arfordir Cymru yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Ni fyddwn wedi gallu cyflawni'r daith heb gefnogaeth cyfeillion, teulu a dieithriaid llwyr ac rwy'n hynod ddiolchgar iddynt am ei gwneud yn daith i'w chofio.

Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i deithio mewn amryw ranbarthau dramor ac mae Llwybr Arfordir Cymru yn sicr gystal â'r gorau sydd gan Seland Newydd, De Affrica a Nepal i'w cynnig - ac mae llawer yn nes.