Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Enw: Bob a Ruth Dennis (gweler y llun ohonom yng Nghas-gwent, y man gorffen a chychwyn yn y De!)

Eich ysbrydoliaeth: Roeddwn newydd gwblhau Llwybr Arfordir y De Orllewin pan gawsom y syniad o beth fyddai ein sialens nesaf. Rydym wedi cerdded ar hyd llawer o lwybrau hir ac yn edrych am sialens arall. 

Dyddiad dechrau: 14 Mawrth 2015

Dyddiad gorffen: 23 Mai 2017

Uchafbwyntiau

Ruth ddaeth o hyd i Lwybr Arfordir Cymru ac roedd yn ymddangos yn ddilyniant naturiol. Er ei fod gryn dipyn yn hirach na Llwybr Arfordir y De Orllewin roeddwn yn benderfynol i’w gwblhau’n gynt. Felly roedd dim ond yn fater o ddod o hyd i’r llyfr cyfarwyddyd, mapiau, gwneud siŵr fod yr esgidiau’n iawn ac i ffwrdd a ni.

Yn ystod y daith gerdded roeddem yn teithio o Plymouth i Gymru am wythnos neu ddwy. Weithiau yn y car ac ar adegau ar y trên. Fe ddefnyddiwyd bythynnod gwyliau, parciau carafanau, a gwestai gwely a brecwast fel cartrefi dros dro, gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i fynd a ni yn ôl ac ymlaen o’r llwybrau cerdded.

Hefyd wnaethom ddefnyddio cwmnïau cerdded i drefnu mannau gwely a brecwast a throsglwyddo paciau, o amgylch Llwybr Arfordir Sir Benfro a’r ychydig can milltir ddiwethaf rhwng Llanelli a Chas-gwent.

Roedd Ynys Môn, Sir Benfro, Gwyr i gyd yn wych ac yn cwrdd â’r disgwyliadau. Fe fu Aberdaugleddau, ardal nad oeddem yn edrych ymlaen ato yn ddiddorol iawn ac roedd yn bleser cerdded o amgylch yr ardal ddiwydiannol.

Ar ôl dweud hynny roeddwn wedi ein syfrdanu gyda’r golygfeydd wedi i ni basio Port Talbot - a phwy feddyliodd y byddai yna dwyni dywod a thraethau eang gwag, a’r llwybrau cerdded ar hyd y foryd a golygfeydd ar draws o Wlad yr Haf a Gogledd Dyfnaint.

Gweld haid o gambigau yn bwydo ger Redwick. Ond eto i gyd mae wedi bod yn fendigedig ar hyd y daith gyda chyrraedd y pwynt diwethaf ar y bont yng Nghas-gwent, fe gyflawnwyd y dasg!!

Isafbwyntiau

Pen Llŷn gan ein bod wedi dewis y wythnos anghywir ac roedd hi’n glawio. Waeth pan mor dda yw eich dillad diddos nid ydynt yn medru ymdopi ag wyth awr o law! Addawyd Dolffiniaid a Llamhidyddion ar hyd y daith ond ni welsom yr un ohonynt.

Y pwynt mwyaf diflas ar hyd y daith oedd yr ochr draw i Gasnewydd lle mae’n rhaid i chi gerdded heibio i ‘safle theithwyr’ ac roedd fel cerdded o amgylch tomen trefol gyda’r atyniad ychwanegol o gŵn. 

Fy Ennyd o Oleuni

Wrth gerdded ar hyd rhan Ynys Môn o’r llwybr , cawsom ein goddiweddid gan redwyr marathon mwyaf heriol y Cylch Tân ( ras hir sy’n rhoi prawf ar wytnwch corfforol ar hyd 125 milltir o Lwybr Arfordir Ynys Môn).

Roeddent yn cwblhau’r llwybr mewn tri diwrnod tra roeddem ni’n cymryd deg diwrnod. Roeddem yn ffodus iawn i fedru cerdded y llwybr yn hamddenol a mwynhau’r golygfeydd.