Arry Beresford-Webb

Arry Beresford-Webb: Y cyntaf i redeg Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa gyda’i gilydd

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Yr Her

Yr 870 milltir cyfan o Lwybr Arfordir Cymru a Llwybr Clawdd Offa, 176 milltir mewn 41 diwrnod. Roedd hyn yn cyfateb â rhedeg 40 o farathonau llwybr un ar ôl y llall, a’r bwriad oedd codi £25,000 i Ganolfan Canser Felindre a Sefydliad CCU Gozo. Dechreuais arni ym Mae Caerdydd ar 24 Mawrth 2012, a mynd tua’r Gorllewin i redeg yn y perimedr gyda’r cloc. Rhedais dros Lwybr Arfordir Cymru reit hyd at y Diwedd/Dechrau yn Queensferry, ac yn anelu’n ôl i Brestatyn i redeg i’r De ar Lwybr Clawdd Offa, gan ailymuno â Llwybr Arfordir Cymru yng Nghas-gwent a gorffen ym Mae Caerdydd ar yr agoriad swyddogol ar 5 Mai.

Uchafbwyntiau

Roeddwn wrth fy modd ag Ynys Môn a Sir Benfro, ond mae yna gynifer o lefydd anhygoel ar hyd y llwybr cyfan, roedd hi’n anodd dewis un hoff le! Hefyd, roedd yr emosiynau a’r straen corfforol a wynebais oherwydd natur yr her yn rhan fawr o sut roeddwn yn ymateb i wahanol lefydd. Reodd y bobl a gyfarfûm ar hyd y daith yn wych! Mor garedig a hael, ac roedd gan nifer oedd yn byw ger y llwybr ymdeimlad mawr o falchder amdano! Roeddwn i mor ddiolchgar i’r bobl a ddaeth i ymuno â mi am rannau, ffrindiau, cydweithwyr a phobl nad oeddwn erioed wedi cwrdd â nhw o’r blaen. Gwnaeth Piers Bramhall, wyneb ymgyrch “We Want Piers” Croeso Cymru, yr ymdrech i gyrraedd pwynt mwyaf gogleddol Cymru o’i gartref yn Llundain i redeg gyda fi. Ar ddiwrnod 19 rhedais gyda’m brawd i’r Bermo, lle sy’n dod a llawer o atgofion plentyndod i fi o’r amser a dreulion ni yno gyda’n rhieni a Nain a Taid (roedd fy mam yn dod o Ddolgellau). Roedd gen i wên fawr ar fy wyneb am y diwrnod cyfan!

Isafbwyntiau

Nid oedd fy munudau isel yn adlewyrchiad o’r llwybr o gwbl, gan mai ffactorau corfforol a seicolegol oedd yn gyfrifol amdanyn nhw. Ar ddiwrnod 4 yr her, pan redais i’r 32 milltir cyfan o’r Gŵyr mewn gwres mawr, troais fy mhen-glin a niweidio’r cartilag. Bro Gŵyr oedd un o’r rhannau prydferthaf, ond cofio’r boen ydw i! Gallai hynna fod wedi bod yn ddiwedd y daith, ond diolch byth mae fy nyfalbarhad a’m penderfyniad yn gryfach na hynna, llwyddais i gael digon o gryfder i gynnal y ben-glin, yn ogystal â defnyddio tâp cryfder diwydiannol a lladdwyr poen! Un o’r atgofion gwaethaf i mi oedd pan wnes i losgi allan yn seicolegol yn ystod diwrnod 15 Aberteifi - Cei Newydd ar Arfordir Ceredigion. Dyma pryd yr aeth y boen, y dwyster a’r emosiynau yn drech na fi. Heb help dau ffrind agos a redodd gyda fi ac Andy, fy nghariad arwrol, fyddwn ni ddim wedi cyrraedd diwedd y dydd. Roedd y diwrnodau a ddilynodd yn anodd yn feddyliol ond diolch i atgofion plentyndod a thir cyfarwydd yng Ngwynedd, yn ogystal â’m cefnogwyr, buan y cefais fy sbonc yn ôl. Rwy’n bwriadu dychwelyd i wneud llwybr Arfordir Ceredigion eto, ond i’w fwynhau y tro hwn! Mae’n fraint i fod y cyntaf i brofi amrywiaeth Llwybr Arfordir Cymru Gyfan. Byddwn wrth fy modd yn ei wneud eto, ond yn arafach, fel y gallaf aros a mwynhau’r llefydd a welais mor sydyn! Am ragor o wybodaeth, dyma fy nhudalen gymorth: http://dragonrun1027.wordpress.com/.

 

  • Teimlo’n ysbrydol ond eisiau taith gerdded sy’n haws? Cliciwch yma am lwybrau cerdded da ar hyd arfordir Cymru. Dewiswch eich ardal ddelfrydol ac wedyn dewiswch un ai llwybr byr (o dan 5 milltir) neu lwybr hir (dros 5 milltir).