Llwybrau beicio cyfagos

Gan nad yw’r rhan fwyaf o lwybr yr arfordir yn addas i feicwyr, dyma rai llwybrau beicio sy’n rhoi cyfle i feicwyr archwilio’r arfordir a’r cefn gwlad gerllaw

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Gyda dewisiadau gwych ar gyfer beiciau ffordd a beiciau mynydd, mae yna gyfleoedd lu i fentro allan ar eich beic ac archwilio cefn gwlad Cymru. I gael mwy o ddewisiadau ar gyfer beicio, edrychwch ar fapiau Sustrans.

Ynys Môn

Mae Lôn Las Cefni yn cysylltu â Llwybr Arfordir Cymru yng Nghoedwig Niwbwrch a Malltraeth.

Menai, Llŷn a Meirionnydd

Mae nifer o lwybrau beicio sy’n addas ar gyfer y teulu cyfan yn rhedeg ar hyd y glannau. Mae nifer yn cysylltu â llwybrau sy’n mynd i gefn gwlad ac â llwybrau beicio mynydd rhagorol. Os ewch ar hyd Lôn Eifion (12 milltir) o Gaernarfon i Fryncir, cewch olygfeydd trawiadol o Lŷn, Môn a mynyddoedd Eryri. Mae Llwybr Mawddach (9 milltir) yn rhedeg o Ddolgellau i Abermo.

Ceredigion

Mae llwybr byr, dymunol (llai na dwy filltir) yn rhedeg drwy Ddyffryn Aeron gan gysylltu Aberaeron â stad Llanerchaeron sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Neu, os hoffech gael llwybr mwy heriol, beth am Lwybr Ystwyth (21 milltir) a fydd yn eich tywys i’r tir o Aberystwyth.

Sir Benfro

Gallwch feicio o Abergwaun cyn belled â Llundain ar lwybr y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol rhif 4, ond does dim angen ichi fynd cyn belled â hynny. Mae’r llwybr, er yn fryniog mewn mannau, yn cynnig ffyrdd cyffrous ac egnïol o archwilio Sir Benfro a thu hwnt. Digon o lonydd cefn coediog, pentrefi tawel a golygfeydd o’r arfordir. Ceir bryniau ar y rhan fwyaf o’r llwybr.

Penrhyn Gŵyr a Bae Abertawe

Abertawe yw’r porth i’r Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr, yr ardal gyntaf ym Mhrydain i’w dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Yma, mae rhannau o’r llwybr yn agored i feicwyr ac mae’n cysylltu â llwybrau beicio dynodedig eraill y Penrhyn. I’r rhai anturus, mae llwybrau beicio mynydd Parc Coedwig Afan, sydd gyda’r gorau yn y byd, o fewn cyrraedd hwylus ar y bws.

Arfordir y De ac Aber Afon Hafren

Mae arfordir Bro Morgannwg yn lle braf i feicio ar y ffordd ac mae’n cysylltu â’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

Daeth Bae Caerdydd lle ceir llu o atyniadau a gweithgareddau, yn lle poblogaidd i deuluoedd ddod i feicio. Mae’r llwybr beicio 6.2 milltir yn cynnwys y morglawdd a godwyd i greu llyn dŵr croyw enfawr. Trefnir teithiau beics yn y Bae a gallwch logi beic yno. Mae llwybr beicio’r Bae wedi’i gysylltu â Llwybr Taf sy’n arwain tua’r gogledd i Aberhonddu.

Mae’r llwybr beicio’n rhedeg ar hyd terfyn Gwarchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd lle ceir canolfan addysg ac ymwelwyr a lle chwarae i blant.

 

Llun: Walk the Wales Coast Path