Arfordir de Cymru ac Aber Afon Hafren

Ewch heibio dair o ddinasoedd mwyaf Cymru a mwynhau golygfeydd ysblennydd o Aber Hafren ac arfordir treftadaeth Morgannwg

Bydd adar y dŵr yn gwmni i chi wrth gerdded, yn enwedig yn y gaeaf. Mae’r gylfinir a’r cwtiad yn gyffredin yma, ac yn ei hanterth mae’r aber ymysg yr ychydig safleoedd ym Mhrydain sy’n gallu dal dros 100,000 o adar hirgoes. Mae holl ardal arfordirol Casnewydd yn rhan o forfa heli Gwastadoedd Gwent, sy’n cael eu gwarchod gan amddiffynfeydd môr a’u draenio gan ffosydd a adnabyddir yn lleol fel ‘reens’.

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Tricia Cottnam yn disgrifio amrywiaeth aruthrol arfordir De Cymru a sut y bydd cerdded ar ei hyd a’i fwynhau yn eich hudo’n llwyr.

Nid cerdded yw’r unig beth y gallwch ei wneud. Yn ogystal â’r llu o gyfleoedd i gerdded y soniwn amdanynt yn yr adran Crwydro Llwybr yr Arfordir, mae llawer o bethau eraill i’w gweld a’u gwneud ar hyd y Llwybr.

Dyma rai o'n hoff deithiau cerdded ac argymhellion sy'n dangos y gorau o arfordir Cymru

Mae’n hawdd cyrraedd Llwybr Arfordir Cymru drwy ddefnyddio cludiant cyhoeddus ac mae modd cyrraedd sawl rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.