Pethau i’w gwneud - Arfordir Eryri a Cheredigion

Nid cerdded yw’r unig beth y gallwch ei wneud.  Yn ogystal â’r llu o gyfleoedd i gerdded y soniwn amdanynt yn yr adran Crwydro Llwybr yr Arfordir, mae llawer o bethau eraill i’w gweld a’u gwneud ar hyd y Llwybr

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Cymerwch gip yma i chi gael gweld pam y mae hwn yn lle mor ardderchog i dreulio amser yn yr awyr agored a pha mor hawdd yw defnyddio Llwybr yr Arfordir yn eich bywyd bob dydd neu ar eich gwyliau.

Portmeirion

Pentref anarferol a ddyluniwyd gan Syr Clough Williams-Ellis ar ôl cael ei ysbrydoli gan arddull ardal Môr y Canoldir. Ffilmiwyd rhai o olygfeydd y gyfres deledu boblogaidd The Prisoner yma yn ystod 60au’r ganrif ddiwethaf.

Craig-glais a Rheilffordd y Graig

Cerddwch neu ewch yn Rheilffordd y Graig i ben Craig-glais lle cewch olygfeydd godidog, caffi a siambr dywyll (camera obscura) fwyaf y byd.

Gwylio dolffiniaid

Mae’n bosib gweld dolffiniaid trwyn potel o unrhyw ran o’r arfordir, naill ai o’r llwybr ei hun neu drwy fynd ar daith ar un o’r badau pwrpasol.

Ynys Lochtyn

Mae’n anodd mynd at yr ynys ei hun ond mae cyfle gwell i werthfawrogi ei harddwch a’i safle o Lwybr yr Arfordir.

Eglwys a Thraeth Y Mwnt

Ewch i chwilio am yr eglwys eiconig o’r Canol Oesoedd, Eglwys y Grog, a’r traeth hardd sydd gerllaw.

Cysylltiadau lleol

Mae gan Gyngor Ceredigion gyfoeth o wybodaeth ychwanegol yn ymwneud â Llwybr yr Arfordir a thwristiaeth i’ch helpu i gynllunio eich antur nesaf, cofiwch eu holi os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’ch ymweliad. Gallwch ymweld â hwy isod: