Pethau i’w gwneud - Sir Benfro

Nid cerdded yw’r unig beth y gallwch ei wneud.  Yn ogystal â’r llu o gyfleoedd i gerdded y soniwn amdanynt yn yr adran Crwydro Llwybr yr Arfordir, mae llawer o bethau eraill i’w gweld a’u gwneud ar hyd y Llwybr

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Cymerwch gip yma i chi gael gweld pam y mae hwn yn lle mor ardderchog i dreulio amser yn yr awyr agored a pha mor hawdd yw defnyddio Llwybr yr Arfordir yn eich bywyd bob dydd neu ar eich gwyliau.

Penmaen Dewi

Mae’r golygfeydd ardderchog a’r llond gwlad o flodau gwyllt sy’n tyfu yno drwy gydol y gwanwyn a’r haf yn gwneud hwn yn safle delfrydol i’w archwilio.

Ynysoedd oddi ar y lan

Gallwch fynd i weld gwarchodfeydd natur a mannau encilio crefyddol ar yr ynysoedd, sy’n enwog ar draws y byd. Mae palod ac adar drycin i’w gweld yn aml yn ystod yr haf.

Archwilio pyllau yn y creigiau

Archwiliwch y pethau rhyfedd a rhyfeddol sydd i’w gweld yn y pyllau yn y creigiau ar yr arfordir yma sydd dan warchodaeth (ac sy’n cynnwys unig Warchodfa Natur Forol Cymru).

Capel Sant Gofan

Ewch i weld y capel pitw bach a adeiladwyd yn y creigiau yn Bosherston.

Cysylltiadau lleol

Mae gan wefan Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyfoeth o wybodaeth ychwanegol yn ymwneud â Llwybr yr Arfordir i’ch helpu i gynllunio eich antur nesaf, cofiwch eu holi os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’ch ymweliad.