Cwrdd â'r Swyddog Llwybr - Sir Benfro

Theresa Nolan yn esbonio pam y mae arfordir Sir Benfro yn arbennig iddi hi

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Helo, fy enw i yw Theresa Nolan, a fi yw Swyddog Llwybr Arfordir Cymru ar gyfer Sir Benfro- o Landudoch yn y gogledd draw i Amroth yn y de. Ces fy magu yng nghanolbarth Lloegr, gan dreulio’r rhan fwyaf o fy mhlentyndod mewn caiac ar yr Hafren, neu’n cerdded dros fryniau a thrwy goedwigoedd- dyna darddiad fy nghariad tuag at yr awyr agored.

Mae Llwybr Arfordir Cymru’n darparu cyfle unigryw i gerdded adrannau hir o arfordir sydd heb eu difetha ac - mewn sawl man - y llwybr yw’r unig ffordd o gyrraedd yno. Gyda’i glytwaith anhygoel o glogwyni gwyllt, traethau tywodlyd, ac aberoedd coedwig, mae’n hafan i fywyd gwyllt a blodau gwych. Mae’r amrywiaeth eang, a’r golygfeydd godidog sydd i’w cael ar Lwybr Arfordir Cymru o hyd yn cynnig profiadau bythgofiadwy.

Beth â’ch denodd i’r swydd?

Rwyf wedi caru Sir Benfro erioed. Pan oeddwn yn blentyn roeddem yn arfer mynd i Ddinbych-y-pysgod ar wyliau. Ac wrth i mi fynd yn hŷn, dechreuais ymweld â Thyddewi unwaith y mis er mwyn caiacio, arfordira, a cherdded.

Dros y blynyddoedd, rwyf wedi bod yn gweithio er mwyn sicrhau bod modd i bawb fwynhau’r awyr agored mewn modd cyfrifol. Pan welais gyfle i weithio yn Sir Benfro, mi es amdani’n syth.

Pa ran o Lwybr Arfordir Cymru yw eich ffefryn?

Mae’n anodd iawn dewis un rhan benodol, gan fod pob man mor wahanol! Rwy’n caru’r ardal anghysbell sydd rhwng Trefdraeth a Chemaes- mae’r clogwyni uchel a’r creigiau yn anhygoel. Ond rwy’n credu fod atgofion fy mhlentyndod yn golygu mai’r traethau tywodlyd rhwng Dinbych-y-pysgod a Llanussyllt sy’n ei chipio hi.

Beth ydych chi fwyaf balch ohono hyd yma?

Sicrhau fod y llwybr ar agor! Mae tîm o wardeiniaid yn sicrhau nad yw’r llwybr yn cael ei dagu gan dyfiant yn yr Haf. Oni bai ei fod yn cael ei dorri, gall y llystyfiant fod mor uchel â’ch pen erbyn Mehefin! Rhaid ei dorri hyd at bedair gwaith er mwyn cadw’r llwybr yn agored trwy’r haf. Ac mae ein perthynas gyda’r tirfeddianwyr yn golygu bod modd i ni ymateb yn gyflym os oes tirlithriadau annisgwyl, a gallwn drefnu mesurau argyfwng neu lwybrau dros-dro.

Cysylltu â Swyddog Llwybr Arfordir Cymru

Gallwch gysylltu â mi gydag unrhyw gwestiynau neu ymholiadau sy’n ymwneud â Llwybr Arfordir Cymru drwy glicio ar Cysylltu â ni i anfon e-bost atom.