Pethau i’w gwneud

Nid cerdded yw’r unig beth y gallwch ei wneud.  Yn ogystal â’r llu o gyfleoedd i gerdded y soniwn amdanynt yn yr adran Crwydro Llwybr yr Arfordir, mae llawer o bethau eraill i’w gweld a’u gwneud ar hyd y Llwybr

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Cymerwch gip yma i chi gael gweld pam y mae hwn yn lle mor ardderchog i dreulio amser yn yr awyr agored a pha mor hawdd yw defnyddio Llwybr yr Arfordir yn eich bywyd bob dydd neu ar eich gwyliau.

Castell a Thref Conwy

Fel un o’r cestyll a adeiladwyd gan Edward I, brenin Lloegr, mae’r dref gaerog a’i chastell enwog yn un o Safleoedd Treftadaeth y Byd; mae llawer o bobl yn credu mai’r castell yma yw’r un gorau a godwyd gan Edward I.

Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa

O Brestatyn cymerwch drywydd byrrach i Gas-gwent ar hyd y llwybr 177 milltir yma. Mewn mannau mae’r llwybr yn dilyn Clawdd Offa, sef clawdd hynafol o’r wythfed ganrif a adeiladwyd ar hyd y ffin. Ewch i wefan Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa

Mae Llwybr Arfordir Cymru hefyd yn cysylltu â  Llwybr Dolen Cymru yn Saltney Ferry, gan gynnig 18 milltir o bleser pur. Mae’n mynd drwy bedair sir a hefyd yn cysylltu â Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yng Nghoedwig Llandegla yn Sir Ddinbych. Edrychwch ar Lwybr Dolen Cymru ar wefan mapio Cyngor Sir y Fflint

Ardaloedd gwyliau Gogledd Cymru

Dewch â bwced a rhaw i fwynhau holl brofiadau trefi a phentrefi traddodiadol glan môr. Maen nhw’n addas i’r teulu ac mae mynediad ardderchog i gadeiriau gwthio a phobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn.

Aber Afon Dyfrdwy

Dewch i ddarganfod cynefin bendigedig Afon Dyfrdwy. Mae’r gwlyptir pwysig yma’n lle da i weld adar hefyd.

Cysylltiadau lleol

Mae gan y tri awdurdod lleol ar arfordir gogleddol Cymru gyfoeth o wybodaeth ychwanegol i’ch helpu i gynllunio eich antur nesaf, cofiwch holi os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’ch ymweliad. Gallwch ymweld â nhw isod: