Teithiau cerdded i archwilio'r ardal - Ynys Môn

Cerdded yw un o’r ffyrdd gorau o werthfawrogi arfordir Cymru ac mae dros 800 milltir o lwybrau i’w troedio, weithiau dros glogwyni uchel, dro arall ar hyd traethau godidog. Dyma rai o’n ffefrynnau ni, a’n hargymhellion ar sut i weld y gorau o’r arfordir

Visit Wales

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Teithiau cerdded byr

Llyn Maelog a Thraeth Llydan
2.25 milltir / 3.6 km (cylch)

Tro cylch ger pentref Rhosneigr. Mae’r rhan gyntaf yn mynd â chi ar hyd llwybr pren sy’n addas i bawb i lwyfan gwylio ar lan y llyn; mae cyrs yn tyfu o gwmpas yr ymylon ac mae’n hafan i adar. Yna, gallwch fynd yn eich blaen o gwmpas y llyn. Darganfod mwy am y cylchdaith gerdded Rhosneigr.

Pentref, aber, traeth a thwyni Aberffraw
2.5 milltir / 3.75 km (cylch)

Taith fer drwy bentref Aberffro ac ar hyd aber hyfryd Afon Ffraw a’r traeth, cyn troi’n ôl drwy’r twyni.

Caergybi i Ynys Lawd
2.75 milltir / 4.25 km un ffordd

Dyma daith gerdded heriol braidd sy’n cychwyn ym Mharc Gwledig y Morglawdd yng Nghaergybi. Mae’r llwybr yn mynd dros y mynydd ac ar hyd yr arfordir i safle eiconig Ynys Lawd. Mae’n bosib cerdded yn ôl i’r parc ar hyd y llwybrau amlwg ar yr ochr arall i’r mynydd.

Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch i Borthaethwy
3 milltir / 5 km

Defnyddiwch y daith hyfryd yma gyda’i golygfeydd gwych draw at y tir mawr fel cyfle i ymarfer dweud enw’r pentref enwog! Bydd y llwybr yn mynd o dan y ddwy bont – Pont Britannia a godwyd gan Stephenson yn 1850, a Phont y Borth, y bont grog enwog a godwyd gan Thomas Telford yn 1826. (Bws)

Biwmares i Drwyn Penmon
4.5 milltir / 7.25 km

Beth am grwydro strydoedd Biwmares i weld yr adeiladau hardd o gyfnod Brenin George cyn mentro ar hyd yr arfordir i fwynhau’r golygfeydd o fynyddoedd y Carneddau’r ochr draw i Afon Menai? Byddwch yn gweld Ynys Seiriol yn Nhrwyn Penmon, cynefin sy’n cael ei ddiogelu ar sail y boblogaeth fawr o fulfrain (ond dim un pâl er gwaethaf ei enw Saesneg!) sydd yno.

Moelfre i Ddulas (tafarn y Pilot Boat)
4.5 milltir / 7.25 km

Dyma lwybr sy’n cynnig golygfeydd ardderchog o’r ardal arfordirol. Mae’n golygu cerdded o bentref tlws Moelfre i draeth poblogaidd Traeth Llugwy a Thraeth yr Ora, sy’n cael llawer llai o ymwelwyr, cyn troi i mewn am y tir ar hyd aber Afon Dulas i dafarn y Pilot Boat Inn. Mae’r llwybr yn mynd heibio i’r gofeb i’r bobl a gollodd eu bywydau pan suddodd llongau’r Royal Charter yn 1859 a’r Hindlea yn 1959. (Bws)

Teithiau cerdded hir

Pentraeth a Thraeth Coch
5.5 milltir / 8.8 km

Cylchdaith sy’n cychwyn ynghanol pentref Pentraeth. Mae’r llwybr yn eich arwain i lawr lôn goediog hardd i Draeth Coch (a enwyd ar ôl lliw’r tywod yno). Ewch ymlaen drwy goedwig gonwydd Pentraeth gan edrych i lawr dros y bae – efallai y gwelwch wiwer goch. Darganfod am y cylchdaith gerdded Pentraeth

Seiriol Sant
6 milltir / 9.6 km

Cylchdaith o ganol Llangoed, drwy gaeau ac ar hyd lonydd i Drwyn Penmon, gan edrych draw dros Ynys Seiriol (Puffin Island). Dyma’r man mwyaf dwyreiniol ar Ynys Môn. Ar y ffordd yn ôl, byddwch yn pasio Priordy Penmon a ffynnon Seiriol Sant.

Porth Amlwch i Gemaes
8.25 milltir / 13.25km 

Mae’r llwybr yma’n cychwyn ym mhorthladd hanesyddol a phrydferth Amlwch. Byddwch yn cerdded ymlaen at glogwyni caregog isel a baeau hyfryd Porth Llechog a Phorthwen, heibio i eglwys anghysbell Llanbadrig ac ymlaen i bentref arfordirol Cemaes. (Bws o ganol tref Amlwch i Gemaes, heblaw am ddydd Sul)

Pont-rhyd-y-bont i Drearddur
9 milltir / 14.5 km

Mae’r llwybr yn cychwyn ar hyd y lan ac yna’n troi i mewn tua’r tir a thrwy goetir. Cyn hir, mae’n dilyn darn hardd ac amrywiol o’r arfordir lle ceir baeau creigiog, traethau bach tywodlyd a chlogwyni talsyth, cyn cyrraedd pentref Trearddur. Darganfod mwy am y daith gerdded Pont-rhyd-y-bont I Fae Trearddur (rhan 11).

Llyn Rhos Ddu i Aberffraw
13 milltir / 21 km

Mae’r llwybr yn mynd drwy Warchodfa Natur Genedlaethol a byddwch wrth eich bodd yn cerdded drwy’r twyni a’r goedwig gonwydd ac ar hyd y traeth eang sy’n arwain i draeth hyfryd Llanddwyn. Cyfuniad o dir ffermio a thwyni yw rhan olaf y daith. Darganfod mwy am y daith gerdded  Llyn Rhos Ddu i Aberffraw (rhan 9).