Canlyniadau prosiect Ein Llwybrau Byw

Cyflwyniad i’r prosiect

Yn ddiweddar mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Chyngor Gwynedd, wedi lansio prosiect 'Ein Llwybrau Byw' / ‘Our Living Trails’ sydd â'r nod hirdymor o hyrwyddo ac adfer bioamrywiaeth ar hyd coridor Llwybr Arfordir Cymru. Mae Binnies UK Limited wedi cael eu contractio gan CNC i gynnal y prosiect 9 mis hwn sydd hefyd yn ceisio hyrwyddo mwy o gysylltiad rhwng pobl a natur, fel bod mwy o bobl yn deall pwysigrwydd amgylchedd naturiol iach, a'r manteision y mae'n eu cynnig i ni.

Ynglŷn â'r prosiect

Bydd y prosiect yn gweithio mewn partneriaeth â thirfeddianwyr, gan y byddant yn rhan hanfodol o’r prosiect. Mae tir ar hyd coridor Llwybr Arfordir Cymru, sy’n 870 milltir o hyd, yn cynnwys tir fferm, cefn gwlad agored, clogwyni, dolydd, traethau ac amgylcheddau trefol. Mae'r tir yn rhoi cyfle pwysig i fynd i'r afael â heriau colli bioamrywiaeth, newid hinsawdd a 'gwasgfa' arfordirol, gan hyrwyddo cymdeithas iach a gwydn yr un pryd.  Bydd yn ymchwilio i 'arferion gorau' ac yn argymell dull o fynd i’r afael o ddifrif â’r broses o gyflwyno prosiectau gwella bioamrywiaeth ar hyd coridor Llwybr Arfordir Cymru, a llwybrau a hawliau tramwy cenedlaethol eraill yng Nghymru o bosib, yn y blynyddoedd i ddod.

Nodau ac amcanion o prosiect

Dysgu sydd wrth wraidd y prosiect Llwybrau Byw. Rydyn ni eisiau gwybod, beth yw'r ffordd orau o wella bioamrywiaeth ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Rydyn ni am wneud hyn mewn ffordd sy'n sicrhau cynifer o fanteision eraill â phosib fel iechyd, ansawdd dŵr, dal a storio carbon, rheoli perygl llifogydd.

• Pa fathau o brosiectau gwella bioamrywiaeth ddylen ni eu cynnal, ble a pham?
• Pa ddata sydd ei angen arnon ni a gyda phwy y mae angen i ni weithio?
• Beth yw'r ffordd orau o weithio gyda thirfeddianwyr a rhanddeiliaid eraill ar hyd Llwybr Arfordir Cymru?
• Sut mae ariannu'r prosiectau hyn a mesur eu heffaith?
• Beth yw'r ffordd orau o godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o fioamrywiaeth a'r manteision a ddaw yn ei sgil?
• Beth yw'r ffordd orau o ddiffinio coridor Llwybr Arfordir Cymru?

Bydd y prosiect yn ymchwilio i'r hyn sydd wedi gweithio'n dda yn y gorffennol drwy ddysgu o 'arferion gorau'. Rydyn ni hefyd am ddysgu o'r hyn nad yw wedi gweithio cystal! Fel rhan o'r prosiect, byddwn yn dewis dwy astudiaeth achos, o restr hir o astudiaethau achos a enwebwyd gan fynychwyr ein Gweminar Ragarweiniol (a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2021). Gallwch gwylio Gweminar Ragarweiniol

Canlyniadau’r Prosiect

Daeth y prosiect i ben ym mis Mawrth 2022.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Chyngor Gwynedd, wedi derbyn adroddiad terfynol ein prosiect ‘Ein Llwybrau Byw’ yn ddiweddar ar gan ein hymgynghorwyr, Binnies UK. Nod hirdymor y prosiect hwn yw hybu ac adfer bioamrywiaeth ar hyd coridor Llwybr Arfordir Cymru.

Mae CNC a Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried yr adroddiad, gan gynnwys yr argymhellion, a byddant yn penderfynu ar y camau nesaf yn fuan.

Mae ein map stori’n rhoi gwybodaeth i chi am y prosiect a’i ganfyddiadau ac argymhellion.

Map stori Ein Llwybrau Byw'/Our Living Trails

Am gopi llawn o’r adroddiad ar ffurf PDF, e-bostiwch wcp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk