Taith Gerdded Gylchol Redwick
Mwynhewch y golygfeydd eang dros Aber Afon Hafren ar y daith gerdded hawdd hon
Cychwynnwch o'r ganolfan ymwelwyr ar rwydwaith o lwybrau ac archwilio y tu hwnt i'r warchodfa
Paddy Dillon
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhedeg drwy Warchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd. Troswyd tir diffaith diwydiannol ar Wastadeddau Gwent yn warchodfa, a agorwyd yn 2000, i wneud iawn am golli cynefinoedd pan adeiladwyd Morglawdd Bae Caerdydd. Mae rhwydwaith o lwybrau yn rhedeg o ganolfan ymwelwyr, ond mae’r warchodfa hefyd yn ymestyn ymhell i mewn i’r tir, lle mae llwybrau drwy gaeau a lonydd fferm yn caniatáu archwilio ymhellach.
Pellter: 7.8 milltir neu 12.5 cilomedr
Man cychwyn: Maes parcio Gwlyptiroedd Casnewydd
Cyfeirnod grid y man cychwyn: ST 33452 83498
Disgrifiad what3words y man cychwyn: degawd.wythnosau.pwyntiau
Mae’r llwybr cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Mae’r llwybr cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Gweld y llwybr a lawrlwytho’r ddolen GPX 'Newport Wetlands' (Gwlyptiroedd Casnewydd).
1. gan Ganolfan Ymwelwyr Gwlyptiroedd Casnewydd faes parcio ond nid yw’n agos at unrhyw wasanaethau bws. Os am fynd i mewn i’r ganolfan ymwelwyr neu’r caffi sydd ynddi ar y cychwyn, yna cerddwch heibio i rwystrau mawr dur rhydlyd i gyrraedd yno. Os nad ydych yn bwriadu mynd i’r ganolfan ymwelwyr, trowch i’r dde wrth y rhwystrau gan ddilyn yr arwydd am Lwybr Arfordir Cymru. Dilynwch lwybr cul ag arwydd am ‘Lonydd Gwyrdd a Llwybr yr Arfordir’ i adael y maes parcio. Trowch i’r chwith ar hyd llwybr concrit heibio i ardal laswelltog ac yna ewch ar hyd llwybr drwy goetir. Trowch i’r chwith fel y nodir i ddilyn llwybr graeanog clir, gan fynd o dan nifer o linellau pŵer uwchben sy’n arwain y llygad i Orsaf Bŵer Aber-wysg. Sefydlwyd Gwlyptiroedd Casnewydd ar yr hyn a fu gynt yn lagwnau lludw tanwydd steril wrth ymyl yr orsaf bŵer.
2. Yn y pen draw, trowch i’r chwith i gerdded wrth ymyl yr arfordir, lle mae gwrych mieri wrth ymyl morfa heli ar aber afon Hafren, gyda gwely cyrs yn ymestyn tua’r tir. Mae’r llwybr llydan yn mynd heibio i oleudy bach, Goleudy Dwyrain Wysg, a adeiladwyd ym 1893. Safai ar goesau yn wreiddiol, ond claddwyd y rhain pan grëwyd y lagwnau lludw tanwydd, gan adael dim ond yr hanner uchaf yn dangos. Mae hysbysfwrdd yn esbonio am adar y gallech eu gweld ar gorsydd a fflatiau llaid aber afon Hafren. (Os mai dim ond taith gerdded fer sydd ei hangen arnoch a mwy o amser i wylio adar, mae croeso i chi ddilyn unrhyw un o’r llwybrau sy’n arwain i mewn i’r tir ac sydd wedi’u nodi ‘VC’ am y ganolfan ymwelwyr.) Ar ôl cryn bellter, mae llwybr yr arfordir yn disgyn ychydig y tu hwnt i forglawdd concrit ac yn anelu i mewn i’r tir, yn dal yn raeanog dan draed ac yn glir i’w ddilyn.
3. Ymunwch â therfyn ffordd yn Saltmarsh Faram a dilynwch y ffordd droellog o’r enw Saltmarsh Lane. Mae arwydd am Lwybr Arfordir Cymru ar y dde, drwy giât fechan wedi’i gosod mewn giât fawr, gan fynd heibio i hysbysiad Gwlyptiroedd Casnewydd. (Sylwch fod llwybr byr ar gael. I’w ddilyn, dilynwch Saltmarsh Lane at gyffordd gyfagos a throwch i’r chwith i ailymuno â’r disgrifiad o’r llwybr eto ar ôl Cross Farm. Mae hyn yn arbed tua 2½ milltir.) Cadwch at ochr chwith cae garw, ewch trwy giât, croeswch bont droed dros ffos ddraenio, a throwch i’r chwith i gerdded wrth ymyl ffens a adeiladwyd i fod yn guddfan adar. Croeswch bont droed â giât a throwch i’r dde. Cadwch i ochr dde cae, ewch drwy giât fawr, yna cadwch at ochr chwith cae hir, cul. Mae postyn marcio yn dynodi tro i’r chwith, ond sylwch fod mynediad i Guddfan Redhouse ar y dde i wylwyr adar. Croeswch bont droed â giât a chadwch i ochr chwith cae arall. Croeswch bont droed arall â giât, a throwch i’r chwith, gan ddilyn llwybr at giât mochyn sy’n arwain at ffordd.
4. Trowch i’r dde a chadw at ochr dde’r ffordd, gan droi i’r dde yn fuan i ddilyn arwyddbost ar hyd ffordd fynediad darmac. Ewch drwy giât a pharhau ar hyd llwybr glaswelltog rhwng gwrychoedd toreithiog a mynd heibio i hysbysiad Gwlyptiroedd Casnewydd. Yn ddiweddarach, ewch drwy giât mochyn ger giât fawr ac ewch ymlaen ar hyd ochr y tir at arglawdd arfordirol glaswelltog. Ewch heibio i hysbysiad Gwlyptiroedd Casnewydd arall ac ewch drwy giât mochyn ger giât fawr i gyrraedd cyffordd ym mhentref Allteuryn. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn troi i’r dde ar hyd y ffordd, gyda thafarn y Farmers Arms i’r chwith, ond mae ein llwybr ni yn dilyn Chapel Road yn syth i mewn i’r tir o’r gyffordd.
5. Cerddwch ar hyd Chapel Road a throwch i’r chwith fel y nodir ar yr arwyddbost, ar hyd llwybr byr, gan fynd trwy giât ac ar draws pont droed i fynwent Eglwys y Santes Fair Magdalen. Cadwch i’r dde o’r eglwys i groesi pont droed â giât i mewn i gae, yna trowch i’r chwith a cherdded yn groeslinol trwy ganol y cae. Croeswch bont droed â giât ac ewch heibio i hysbysiad Gwlyptiroedd Casnewydd sy’n rhoi gwybodaeth am ardal a elwir yn ‘Swaplands’. Cadwch i ochr dde Cae’r Pentref, gan gerdded wrth ochr ffos ddraenio. Croeswch bont droed â giât ac ewch yn syth ymlaen ar ochr dde cae arall. Croeswch bont droed arall â giât a cherddwch yn syth ymlaen trwy gae arall. Croeswch un bont droed olaf â giât, a cherddwch yn syth ymlaen ar hyd ochr chwith cae i gyrraedd camfa risiau wrth ymyl giât fawr.
6. Trowch i’r chwith i gerdded ar hyd ffordd fferm lydan, a allai fod yn fwdlyd. Ewch heibio i Henton Farm a Cross Farm i gyrraedd cyffordd, yna trowch i’r dde i ddilyn y ffordd rownd tro, cyn troi i’r chwith drwy giât fawr i mewn i gae. Cerddwch yn groeslinol i’r dde i groesi’r cae ac yna croeswch bont droed â giât. Cadwch at ochr dde’r cae a chroeswch gamfa risiau wrth ymyl giât fawr. Cerddwch yn groeslinol i’r chwith drwy’r cae nesaf a chroeswch bont droed arall â giât. Anelwch yn bell i’r chwith o adeiladau ym mhentref Trefonnen a chroeswch bont droed arall â giât. Croeswch y ffordd ac yn syth wedyn croeswch bont droed â giât, ac yna anelwch tuag at feindwr eglwys i ddod o hyd i giât mochyn yn arwain allan o gae i ffordd.
7. Dilynwch y ffordd rhwng Eglwys y Santes Fair a thafarn y Waterloo Inn, ac ychydig cyn cyrraedd y dafarn, trowch i’r dde i gerdded drwy faes parcio bach. Croeswch bont droed sydd â chamfa i gyrraedd cae. Ymunwch â Llwybr Arfordir Cymru eto yn y fan hon a throwch i’r chwith i’w ddilyn ar hyd ochr chwith y cae, y tu ôl i’r dafarn. Croeswch bont droed â giât a dilynwch ffos ddraenio o’r enw Skinner’s Reen ger cae mwdlyd, gan groesi pont droed arall â giât. Cerddwch yn syth drwy gae mawr, gan edrych am arwyddbost i groesi pont droed arall â giât. Cerddwch ymlaen am ychydig bach a mynd i mewn i’r cae nesaf, yna trowch i’r chwith i groesi pont droed arall â giât. Cadwch ar yr ochr chwith i’r cae, gan ddilyn ei wrych toreithiog.
8. Croeswch bont droed a throwch i’r dde gan ddilyn yr arwydd. Croeswch bont droed arall dros ardal fwdlyd yn y cae, yna croeswch bont droed â giât. Cadwch ar yr ochr dde i’r cae, gan anelu at simnai gorsaf bŵer amlwg. Croeswch ddwy bont droed, ac yna pont droed â giât, yna trowch i’r chwith ar hyd trac ag arwyneb cadarn. Trowch i’r dde drwy ddwy giât mochyn a dilynwch lwybr glaswelltog gyda gwrychoedd o’i amgylch. Mae giât mochyn arall yn arwain at y ffordd fynediad sy’n gwasanaethu Canolfan Ymwelwyr Gwlyptiroedd Casnewydd. Mae’r adeilad ychydig i’r chwith ac, os yw ar agor, mae caffi a thoiledau ar gael. Fel arall, trowch i’r dde i gerdded rhwng y rhwystrau dur rhydlyd i ddychwelyd i’r maes parcio.