Teithiau cerdded byr Sir Benfro

Abereiddi i’r Merllyn Glas
300 llath

300 llath – taith addas i ddefnyddwyr cadair olwyn sy’n arwain i’r Merllyn Glas – chwarel ddofn sydd wedi’i llenwi â dŵr – lle ceir golygfa drawiadol. Darganfod mwy am y daith gerdded yma: Abereiddi i’r Merllyn Glas.

Ceibwr i Bwll y Wrach
Llai na milltir / 1 km

’Slawer dydd, roedd bae Ceibwr yn borthladd prysur yn gwasanaethu Trewyddel. Mae Pwll y Wrach yn un o nodweddion daearyddol mwyaf nodedig y rhan hon o’r arfordir – ogof wedi dymchwel wrth i’r môr dreulio siâl a thywodfaen meddal ar hyd ffawtlin. Darganfod mwy am y daith gerdded yma: Ceibwr i Bwll y Wrach.

Solfach
Llai na milltir / 1 km

Mae ’na ddarnau serth ar y llwybr hwn. Mae’r creigiau yng ngheg harbwr Solfach yn ei wneud yn un o’r llefydd mwyaf diogel i angori rhwng Aberdaugleddau ac Abergwaun. Mae dwy ran i’r pentref, Solfach Uchaf a Solfach Isaf. Darganfod mwy am y daith gerdded yma: Solfach.

Trefdraeth
amryw

Dewch i archwilio tref ganoloesol hardd Trefdraeth. Gan ei bod wedi’i lleoli ar aber Afon Nyfer, mae digon o lwybrau gwastad yma sy’n gwbl addas mewn mannau i gadeiriau olwyn. Gallwch gerdded yn hamddenol a mwynhau gwylio’r bywyd gwyllt. (Bws)

Y Parc Ceirw i Farloes
2 milltir / 3.5 milltir

Dyma gyfle i grwydro’r Parc Ceirw a mwynhau’r golygfeydd tua’r Swnd Fain (Jack Sound) ac Ynys Sgomer ac ymlaen ar hyd yr arfordir trawiadol. Eisteddwch a gwyliwch ddyfroedd gwyllt y Swnd Fain yn gwibio heibio, yn y gobaith o weld huganod a llamhidyddion. Dyma le gwych ym mis Medi a mis Hydref i weld morloi bach ar y traethau islaw (ond cofiwch fod y clogwyni yma’n serth a bod angen gofal bob amser). Os ewch ymlaen ychydig yn bellach ar hyd y llwybr yma, byddwch yn cyrraedd traeth eithriadol o brydferth Marloes. Darganfod mwy am y daith gerdded yma: Y Parc Ceirw i Farloes.

Dinbych-y-pysgod
4.6 milltir / 7 km

Tro o gwmpas y dref glan môr brysur hon a’r ardal wledig gerllaw. Gallwch edrych draw at Ynys Bŷr sy’n gartref  i gymuned grefyddol ers y chweched ganrif. Darganfod mwy am y daith gerdded yma: Dinbych-y-pysgod.