Llwybr Arfordir Cymru – Y Rhannau Hardd Swyddogol

Mae pobl yn gofyn inni’n aml: ‘pa rannau o Lwybr Arfordir Cymru yw’r harddaf?’

Cwestiwn anodd iawn i’w ateb!

Yn gyntaf oll, ‘gwyn y gwêl y frân ei chyw’, ys dywed yr hen air. Fe fydd llawer o bobl o’r farn fod mannau eang ac agored aberoedd Dyfrdwy a Hafren yn atyniadol, yn enwedig i’r rheini sy’n ymddiddori mewn adar, sef rhywbeth y mae’r ddau le yn enwog amdano.

Fe fydd eraill yn gweld ardaloedd trefol yn hardd – dinasoedd dihafal Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd yn y de neu gyrchfannau Prestatyn, Y Rhyl, Bae Colwyn a Llandudno yn y gogledd, er enghraifft.

Heb sôn am y cestyll trawiadol a’r henebion eraill sydd ar wasgar ar hyd ein harfordir; neu’r ddrama a’r diddordeb sydd ynghlwm wrth dirweddau diwydiannol fel gwaith dur Port Talbot neu orsaf bŵer Yr Wylfa ar Ynys Môn.

Ond, yn hwylus ddigon ar gyfer yr erthygl hon, mae rhai rhannau wedi’u dynodi neu eu diffinio’n swyddogol fel bod yn lleoedd ‘hardd’ gan Cyfoeth Naturiol Cymru a’u rhagflaenwyr a’u partneriaid.

Parciau Cenedlaethol

Yn gyntaf, mae Llwybr Arfordir Cymru yn mynd trwy ddau Barc Cenedlaethol – Uwch Gynghrair y dynodiadau tirwedd. Arfordir Penfro yw’r unig Barc Cenedlaethol ym Mhrydain sydd wedi’i ddynodi’n bennaf ar sail ei arfordir, ac mae’n enwog drwy’r byd am ei draethau, ei faeau a’i lwybrau clogwyn ysblennydd.

Ymhellach tua’r gogledd, mae Parc Cenedlaethol Eryri yn enwog am ei fynyddoedd, ac mewn mannau mae Llwybr Arfordir Cymru yn arwain trwy odreon y rhain. Ond mae hefyd yn cynnwys milltiroedd lawer o arfordir, gan gynnwys traethau tywodlyd hir Morfa Harlech a Morfa Dyffryn.

Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol

Mae tair ardal ar hyd arfordir Cymru, sef Ynys Môn, Llŷn a Gŵyr ger Abertawe, wedi’u dynodi’n Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) – teitl nad oes angen ei esbonio ymhellach! Hardd eithriadol!

I’r llygad anghyfarwydd, does fawr o wahaniaeth rhyngddynt â Pharciau Cenedlaethol – mae’r traethau, y baeau a’r clogwyni yn dal i fod yno.

Arfordiroedd Treftadaeth

Bwriad Arfordiroedd Treftadaeth yw diffinio’r rhannau gorau o arfordiroedd sydd heb eu datblygu, gan eu gwarchod a’u rheoli mewn modd cynhwysfawr, er mwynhad y cyhoedd hefyd. Mae gennym 14 yng Nghymru; ond, yn ddryslyd braidd, mae nifer ohonynt oddi mewn i AHNE – cadarnhad dwbl o’u harddwch!

Ond mae Arfordiroedd Treftadaeth nad ydynt yn rhannau o AHNE, ar y Gogarth yn y gogledd, yng Ngheredigion yn y gorllewin ac ym Morgannwg yn y de, yn ychwanegu rhyw 60 cilometr at ein map hardd. 

Felly, i ble y dylech fynd i fwynhau’r holl harddwch yma?

Wel, mae gennych ddigonedd o ddewis; felly beth am ddod yn ôl, ac yn ôl eto wedyn.

A chofiwch am atyniadau’r ardaloedd nad ydynt ar y map!

undefined